|
Aderyn Pur C - D
||C|F|C|Am| F|G|C|C|| x 2
||C|C|G|C| C|F|G|C| G|C|G|C|
|F|Em|Dm|G| F|C|G|Am| F|G|C|C||
||D|G|D|Bm| G|A||D|D|| x 2
||D|D|A|D| D|G|A|D| A|D|A|D|
G|F#m|Em|A| G|D|A|Bm| G|A|D|D||
1. Ad-||-eryn | pur a'r | adain | las, bydd | i mi’n | was | dibryder,
O || brysur | brysia | at y | ferch lle | rhoes i’m | serch yn | gynnar.| || ||Dos di | ati, | dywed | wrthi, | ’mod i’n | wylo | dŵr yn | heli;| ’Mod i’n | irad | am ei | gweled, ac | o’i | chariad yn | ffaelu
â | cherdded,
O | Dduw fadd-|-euo’r | hardd ei | llun am | boeni | dyn mor | galed.| ||
2. Pan o’wn i’n hoenus iawn fy hwyl, ddiwrnod gŵyl yn
gwylio,
Canfyddwn fenyw lana ’rioed, ar ysgafn droed yn rhodio.
Pan ei gwelais, syth mi sefais, yn fy nghalon mi feddyliais:
Dyma ddynas lana'r deyrnas, a'i gwên yn harddu pawb o'i
chwmpas,
Ni fynswn gredu'r un dyn byw nad oedd hi rhyw angyles.
Alawon fy Nghwlad (Hobed o hilion) Em - Am
||Em|G|D|D| G|Bm|EmD|C|| x2
||G|G|G|Em| G|Bm|EmD|C|| x 2
Am|C|G|G| C|Em|AmG|F|| x2
||C|Em|AmG|F| C|EmAmG|F|| x2
1. A-||-lawon fy | ngwlad sy'n | denu fy | mryd
Rwy'n | canu, rwy'n | canu, er | gwiethaf y | byd.||
Eu || seiniau sydd | bedd yn | nyfnder pob | oes,
Rwy'n | canu, rwy' n | canu er | gweithaf pob | croes.|| ||Telyn hoff | Gymru, dy | dannau sydd | hen,
Ti | wnaethost ti | brudd-der y | glaf wisgo | gwên.|| ||Henaid ath-|-rylith y | buost cyn | hyn,
Per-|-oriaeth y | Cymry wna'r | llygaid yn | llyn.||
2. Bu amser pan oedd tywysogion ein gwlad
Yn canu, yn canu wrth arwain y gad.
A llawr hen fardd â'i awen yn llu
Fu'n canu a chanu yn beraidd mewn bri.
Miwsig y bryniau fo'n ennyn y tân
Mae meibion hen Gymru heb golli eu cân.
Cofion fy nhadau sy'n felus i mi, Boed telyn ac awen mewn llwyddiant a bri.
Ar ben Waun Tredegar D
||D|D|D|D| A|A|A|A|
D|D|G|Bm| D|DA|A|D||
1. Ar || ben Waun Tre-|-degar mae | eirin a | chnau
Ar | ben Waun Tre-|-degar mae | 'fale mis | Mai
Ar | ben Waun Tre-|-degar mae | ffrwythau o bob | rhyw
Ar | ben Waun Tre-|-degar mae | 'nghariad i'n | byw.
2. Fy nghariad a notws i wylad y nos
Fy nghariad a wetws do lawer gair cro's
Fy nghariad a notws i edrych yn llon
Fy nghariad a dorrws fy nghalon i bron.
Ar gyfer heddiw’r bore G
D||GD|G|G|D| G|CD|G||
||G|D|D|G| GD|GD|G|D| G|CD|G||
1. Ar || gyfer heddiw'r | bore'n faban | bach, (yn) faban | bach
Y ganwyd gwreiddyn | Jesse'n faban | bach ||
Y || cadarn ddaeth o | Bosra, Y deddfwr gynt ar | Sina, Yr | iawn gaed ar
Gal-|-faria
(Yn) faban | bach, (yn) faban | bach, Yn | sugno bron Mar-|-ia'n faban |
bach.
2. Ceid bywiol ddwfr Eseciel ar lin Mair, ar lin Mair, A gwir Feseia
Daniel ar lin Mair.
Caed bachgen doeth Eseia, 'Raddewid roed i Adda, Yr Alffa a'r
Omega
Ar lin Mair, ar lin Mair, Mewn côr ym Methle'm Jiwda ar lin
Mair.
3. Diosgodd Crist ei goron o'i wir fodd, o'i wir fodd Er mwyn coroni
Seion o'i wir fodd.
I blygu'i ben dihalog O dan y goron ddreiniog I ddioddef dirmyg
llidiog
O'i wir fodd, o'i wir fodd Er codi pen yr euog o'i wir fodd.
4. Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt I 'mofyn am y
noddfa fel yr wyt.
I ti'r agorwyd ffynnon A ylch dy glwyfau duon Fel eira gwyn yn
Salmon
Fel yr wyt, fel yr wyt Am hynny, tyrd yn brydlon fel yr wyt.
Ar hyd y nos D - G
D|G|E|A| G|A|D|D|| x 2
||G|G|Bm|Bm| Em|Em|A|A||
||D|G|E|A| G|A|D|D||
neu: ||F|Bb|G|C| Bb|C|F|F||x2
|Bb|Bb|Dm|Dm| Gm|Gm|C|C|
F|Bb|G|C| Bb|C|F|F||
neu: ||G|C|A|D| C|D|G|G|| x2
||C|C|Em|Em| Am|Am|D|D||
||G|C|A|D| C|D|G|G||
1.||Holl am-|-rantau’r | sêr | ddywedant, | ar | hyd y | nos;|| || Dyma’r | ffordd i | fro gog-|-oniant, | ar | hyd y | nos.|| ||Golau | arall | yw tyw-|-yllwch | i ar-|-ddangos | gwir bryd-|-ferthwch ||Teulu’r | nefoedd | mewn taw-\-elwch | ar | hyd y | nos.||
2. O mor siriol gwena seren ar hyd y nos,
I oleuo’i chwaer
ddaearen ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd, ond i harddu dyn a’i
hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i’n gilydd ar hyd y nos.
||D|DG|D|D|| x2
D|D7|G|G| D|A|D|D||
1. Ar lan y ||môr mae rhosys | cochion |, ar lan y || môr mae |
lilis |gwynion|
Ar lan y || mô-|-ôr mae 'nghariad | inne | yn cysgu'r | nos | a chodi'r |
bore. | ||
2. Ar lan y môr mae carreg wastad, lle bûm yn siarad gair
â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili ac ambell sbrigyn o rosmari.
3. Ar lan y môr mae cerrig gleision, ar lan y môr mae
blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rhinwedde. ar lan y môr mae
'nghariad inne.
4. Mor hardd yw’r haul yn codi’r bore, Mor hardd yw’r
enfys aml ei liwiau
Mor hardd yw natur ym Mehefin, Ond harddach fyth yw wyneb Elin.
5 Llawn yw’r môr o swnd a chregyn, Llawn yw'r ŵy o wyn a
melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blodau. Llawn o gariad merch wyf innau.
6. Dros y mor y mae fy nghalon, Dros y mor y mae
‘ngobeithion
Dros y mor y mae f’anwylyd Sydd yn fy meddwl i bod munud
Armadilo E (Alaw 'Amarilo')
Cytgan 1: Ffa-la-la La La-la-la-la ( / / ) Ffa-la-la La La-la-la-la (
/ / )
Ffa-la-la La La-la-la-la ( ........... )
1. Mae'r haul yn codi ar doriad dydd I ddangos cefn mawr ym Mae
Caerdydd
Gyda'i do o gopor crand, Adeilad i dderbyn pob math o fand
Mae ganddo waliau o lechi, Tu mewn mae llawer o bren
Ac ar ei flaen mae'r geiriau: 'Creu gwir Fel gwydr o ffwrnais
awen'.
Cytgan 2: Mae gan Gymru ei Armadilo Cawn weld llawer o gyngherddau
ynddo;
Ry'n ni i gyd yn falch iawn ohonno Canolfan y Mileniwm.
Dewch gyda ni i'r Armadilo Lle mae llawer o ganu a dawnsio
Lle i wylio a gwrando a joio Canolfan y Mileniwm
(wedyn Cytgan 1)
2. Y tro nesaf fyddwch yn dod i Gaerdydd, Ewch lawr y Bae i weld y
gorau sydd,
Perfformwyr o bob math dan haul A chwmni opera sydd heb ei ail
Mae yno neuadd enfawr Am gyngherddau myrdd
A Stiwdio Simon Weston A Chanolfan yr Urdd.
(Cytgan 2) (Cytgan 1 x
2)
Bachgen bach o dincer Dm
(The little tinker boy)
1. Bachgen bach o dincer yn myned hyd y wlad,
Cario’i becyn ar ei gefn a gweithio'i waith yn rhad;
Yn ei law ‘roedd haearn, ac ar ei gefn bocs
Pwt o getyn yn ei geg a than ei drwyn roedd locs.
Cytgan: Potsiar peipar twigar owns agên
Y potsiar ar y peipar ar y nicaboca lein.
La di da di da di Hoc it ar y tsiên,
Y potsiar ar y peipar ar y nicaboca lein
2. Cydio yn ei badell y Piser neu’r ystên;
Taro’r haearn yn y tân, a dal i sgwrsio’n glên: (glân)
Eistedd yn y gongol, un goes ar draws y llall,
Taenu’r sawdur gloyw glân i gywrain guddio’r gwall.
(Cytgan)
3. Holi hwn ac arall pie’r aeth y tincer mwyn,
Gyda’i becyn ar ei gefn a chetyn dan ei drwyn.
Bachgen bach o dincer ni welir yn y wlad;
Ow, Mae’n golled ar ei ôl i wneud ei waith yn rhad. (Cytgan)
Bendigedig fyddo'r Iesu D
1. Bendigedig fyddo’r Iesu! Yr hwn sydd yn ein caru, Ein galw
o'r byd a'n prynu,
Ac yn Ei waed ein golchi, Yn eiddo iddo'i hun, yn eiddo iddo’i
hun
Cytgan (dwy waith): Haleliwia,Haleliwia, Moliant iddo byth, Amen
2. Bendigedig fyddo’r Iesu! Yr hwn sydd iddo’n credu
A gaiff ei ras i’w nerthu - mae’r hwn sydd yn gwaredu
Yn aros fyth yr un, yn aros fyth yr un.
(Cytgan)
3. Bendigedig fyddo’r Iesu! Fe welir ei ddyweddi Heb un
brycheuyn arni
Yn lân fel y goleuni, Ar ddelw Mab y Dyn, ar ddelw Mab y Dyn.
(Cytgan)
Beth yw'r haf i mi? Em
1. Beth yw’r haf i mi - dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli,
Er pan gollais di nid yw hirddydd haf yn ddim i mi,
Gariad bach er crwydro’n ffôl, Dwed y ddoi di eto'n ôl
Beth yw’r haf i mi - dim ond hirlwm ers pan gollais ti.
2. Trist yw’r galon fach pan fo cwyn y gwynt ym mrigau’r coed
Wedi’r canu’n iach rwyf yn disgwyl clywed swn dy droed,
Gariad bach er crwydro ‘mhell Tyrd yn ol i gyfarch gwell,
Trist yw’r galon fach; ni bu hiraeth mwy ar neb erioed.
3. Beth yw’r haf i mi os yw’r fron yn glaf o dan ei chlwy,
Beth yw’r haf i mi os yw’r galon fach war dorri’n ddwy,
Gariad bach er cilio’n ffôl Dwed y doi di eto’n ôl
Yna bydd i mi hyfryd haf a dyddiau dedwydd mwy.
Bing bong be D
1. Dau gi bach yn mynd i’r coed Esgid newydd am bob troed
Dau gi bach yn dwad adre’ Wedi colli un o’u
‘sgidie
Cytgan (x 4): Bing, bong, bing bong be;
2. Nant y mynydd groyw, loyw Yn ymdroelli tua’r pant
Rhwng y brwyn yn sisial ganu, O, na bawn i fel y nant!
(Cytgan)
3. Maen nhw’n dwedyd ac yn sôn, mod i’n caru yn Sir
Fôn;
Minnau sydd yn caru’n fyddlon, dros y dŵr yn Sir Gaernarfon.
(Cytgan)
4. Bum yn canu ryw nos Wener dan y faril yn y seler,
Ac yn wir mi garwn eto gyfeillachu peth â honno.
(Cytgan)
5. Llawer gwaith y bûm yn meddwl mynd i’r dafarn,
gwario’r cwbwl,
Dyfod adre’n feddw, feddw, curo’r wraig yn arw, arw.
(Cytgan)
Blaenau Ffestiniog D
1. Nawr Cymry dewch yn llu i wrando ar fy nghân
Mae rhywbeth bach yn poeni fi yn fawr
Mae byw yn Abertawe yn chwarae ar fy nerfau
Ac rwy’n gadael am y brynie gyda’r wawr
Cytgan: O rwy'n mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
Rwy’n dala’r trên cynta’ ma’s o’r
dre
O rwy’n mynd nôl i Flaenau Ffestiniog
Canys yno mae fy seithfed ne.
2. Mrs Jones cymerwch lythyr, sgrifennwch hwn ar frys:
“Diar Mam, rwy wedi drysu ar y dre;
O rwy wedi cau'r ffenestri, Y dwr uwchben y llestri
Ac mae'r celfi gyd yn daclus yn eu lle”.
(Cytgan)
3. Mi es i Iwgoslafia ar fy ngwyliau yn yr haf;
Mi basiais drwy y Swistir ar fy nhaith
Medde dyn bach yn yr Almaen, ‘Ble'r ych chi'n mynd, mein
Fraulein?'
Fe drois yn ôl i ateb ar un waith.
(Cytgan)
4. Bydd y Steddfod yn y gogledd ac yna lawr i'r de,
A'r llys yn penderfynu ble i fynd.
Gwaeddodd Gwyndaf lawr i'r dyrfa, “Ble fydd y Steddfod
nesa?”
Clywyd llais o'r cefn yn gweiddi hyn...
(Cytgan)
5. Mae'r dyn sy'n talu'r delyn yn galw am y gân;
Mae'r dyn sy'n canu'r gân yn cael y sbri.
Gan mai fi sy'n canu'r delyn, y chi sy'n gorfod dilyn,
Felly 'munwch foneddigion gyda mi...
(Cytgan)
Ble mae Daniel? F (Cân cylch - alaw 'London's burning')
Ble mae Daniel? Ble mae Daniel?
Yn ffau’r llewod. Yn ffau’r
Ilewod,
Am beth? Am beth?
Am iddo beidio addoli’r ddelw.
Ble'r ei di? C
1.“B’le’r ei di, b’le’r ei di yr hen dderyn bach?”
“I nythu fry ar y goeden.”
“Pa mor uchel yw y pren?”
“Wel dacw fe uwchben.”
“O mi syrthi, yr hen dderyn bach.”
2. “B’le’r ei di, b’le’r ei di yr hen dderyn bach?”
“I rywle y dorri fy nghalon.”
“Pam yr ei di ffwrdd yn syth?”
“Plant drwg fu’n tynnu’r nyth.”
“O drueni, yr hen ddderyn bach.”
Ble'r wyt ti'n myned? Am - Dm
1. "Ble 'r wyt ti'n myned yr eneth ffein ddu?"
"Myned i odro, O! Syr." mynte hi.
Cytgan: "O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i."
2. "Gaf fi ddod gyda thi, yr eneth ffein ddu?"
"Gwnewch fel y mynnoch, O! Syr." mynte hi.
(Cytgan)
3. "Gaf fi roi cusan iti yr eneth ffein ddu?"
"Beth ydyw hwnnw, O! Syr?" mynte hi.
(Cytgan)
4. "Gaf fi dy briodi yr eneth ffein ddu?"
"Os bydd Mam yn foddlon, O! Syr?" mynte hi.
(Cytgan)
5. "Beth yw dy ffortiwn yr eneth ffein ddu?"
"Dim ond a welwch, O! Syr?" mynte hi."
(Cytgan)
6. "Yna ni'th briodaf yr eneth ffein ddu."
"Ni ofynnais i chwi, O Syr." mynte hi.
(Cytgan)
Bonheddwr mawr o'r Bala D - F
1. Boneddwr mawr o’r Bala
Ryw ddiwrnod aeth i hela
Ar gaseg denau ddu (x2)
Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Ar gaseg denau ddu (x2)
2.Carlamodd yr hen gaseg
O naw o’r gloch tan ddeuddeg
Heb unwaith godi pry.
Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Heb unwaith godi pry (x2)
3. O’r diwedd cododd lwynog
Yn ymyl tý cymdog,
A’r corn a rododd floedd.
(Cytgan)
4. Yr holl fytheid redasant
A’r llwynog coch ddaliasant,
Ond ci rhyw ffarmwr oedd.
(Cytgan)
Brethyn cartref (Hob y deri dando) D
1. Chi sy’n cofio ‘N ewyrth Dafydd, Patriarch Felindre,
Rych chi’n cofio’n burion hefyd Am ei frethyn cartre;
Aeth ei got yn hen heb golli Dim o’i grân;
Roedd hi’n llwyd pan gas ei phannu:
Cytgan (x2): Brethyn gwlân y defaid mân, Dyna fel y
gwisgai'r oes o'r blân.
2. Felly’r elai gynt i garu – Yn ei frethyn cartre,
Ac ar fore ei briodi Gyda Neli’r Hendre;
I ffair G’lamai a Chymanfa’n Ddiwahân,
’Run hen wisg a’r un hen Grefydd:
(Cytgan)
3. Gwelodd ‘Newyrth lawer ffasiwn, Do yn enw’r
annw’l,
Ond effeithiodd ‘run ohonynt Ddim ar ddillad ‘Nwncwl:
Ni freuddwydiai am wisg newydd Mwy na’r frân,
‘Run hen dorrad yn dragywydd:
(Cytgan)
4. Gwisg o liain main a derw Sydd amdano heno,
Ac mae’r awel yn yr ywen Dan yr hon mae’n huno:
Ond mae’r defaid eto’n pori ‘Ngwlad y Gân,
Ac mae arnynt wlân yn tyfu:
(Cytgan)
Breuddwyd D - F
1. Ar ben y mynydd mae cwmwl gwyn
A'r haul yn dawnsio ar donnau'r llyn
Mae drws yr eglwys wedi cloi a glas y dorlan wedi ffoi
Mae'r plant yn gadael am y dre (x2)
Cytgan (x2): Ond mae Nwy yn y Nen ac mae'r lleuad yn wen
Ac mae rhywbeth o'i le yn y dre
2. Glaw yn disgyn, dagrau o aur, swn tywyllwch a dawns y dail
Mae'r ysgol fechan heb ei chan, teganau pren yn deilchion man
A'r plant yn gadael am y dre (x2).
(Cytgan)
3. A phan ddaw'r gwanwyn i hebrwng yr haf
Mewn dyffryn unig ar fore braf
Mi glywaf swn y droed ar ras yn dweud ffarwel i'r ddinas gas
A'r plant yn mynd yn ol i'r wlad (x2)
(Cytgan)
Bugail Aberdyfi D
Mi ganaf heno eto gân i'th cael yn ôl, fy ngeneth lân
I'r gadair siglo ger y tân ar fynydd Aberdyfi
Paham fy annwyl ferch, paham gadewaist fi a'th blant di-nam
Mae Arthur bach yn galw'i fam, a'i galon bron â thorri.
Mae'r ddwy oen llywaith ger y llwyn
A'r plant yn chwarae hefo'r ŵyn
O tyrd yn ôl, fy ngeneth fwyn, i fynydd Aberdyfi
Mi geisiaf eto ganu cân, i'th cael yn ôl, fy ngeneth lân
I eistedd eto ger y tân ar fynydd Aberdyfi.
Rwy'n cofio'th lais yn canu'n iach
Ond fedri di, na neb o'th ach ddiystyru gweddi plentyn bach
Sydd eisiau gweld eu fami.
Nid chwarae plant oedd dweud ffarwel
Cyd-faddau wnawn, a dyna fel
Tyrd dithau 'nôl, fy ngeneth ddel, i fynydd AberdyfiBugeilio'r gwenith gwyn C
1. Mi sy’n fachgen ifanc ffôl yn byw yn ôl fy
ffansi,
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn, ac arall yn ei fedi ;
Pam na ddeui ar fy ôl rhyw ddydd ar ôl ei gilydd ?
Gwaith rwy'n dy weld y feinir fach, yn lanach, lanach beunydd.
2. Glanach, glanach wyt bod dydd neu fi sy â'm ffydd yn
ffolach,
Er mwyn y gŵr a wnaeth dy wedd gwna im drugaredd bellach;
Cwyd dy ben, gwel acw draw, rho imi'th law wen, dirion,
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro mae allwedd clo fy nghalon.
3. Tra bo dŵr y môr yn hallt, a thra bo 'ngwallt yn tyfu,
A thra bo calon dan fy mron mi fydda'n ffyddlon iti ;
Dywed imi'r gwir heb gêl a rho dan sêl d'atebion,
Ai mi fy hun neu arall, Gwen, sydd oreu gen dy galon.
Bwthyn fy nain Dm - Em
1. Mae nain mewn bwthyn bach, yn ymyl llwyn o goed
Yn byw yn dedwydd iach, yn bedwar ugain oed
Cytgan: Mae perllan ganddi hi, a thyddyn bychan twt,
A'r ieir di-ri a'r fuwch a'r gath a'r ci A'r mochyn yn y cwt.
2. A phan fo plant y llawr yn methu byw ynghyd
Mae nain yn dewydd iawn, yn dawel iawn ei byd
(Cytgan)
Calon lân G
1. Nid wy'n gofyn bywyd moethus, aur y byd na'i berlau mân
Gofyn rwyf am galon hapus, calon onest, calon lân.
Cytgan: Calon lân yn llawn daioni, tecach yw na'r lili dlos
Dim ond calon lân all ganu, canu'r dydd a chanu'r nos.
2. Pe dymunwn olud bydol, adain fuan ganddo sydd
Golud calon lân rinweddol yn dwyn bythol elw fydd.
(Cytgan)
3. Hwyr a bore fy nymuniad, esgyn ar adenydd cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad roddi imi galon lân.
(Cytgan)
Cân y coliar G
1. Rwy'n lwmpyn mawr o goliar sydd newydd ddod o'r wlad
Yn gaffer acha thalcen, yn ennill mwy na 'nhad.
Cytgan: Cer'ed y byd i'r sawl a fynno, a finne'n llawen iach
Llymaid nawr ac yn y man o gwrw Melin Bach.
2. Rwy'i lawr yn y pwll yn y bore, yn dod tua thre mor ddu,
Yn iwso cymant o sepon a garith gwraig y ty.
(Cytgan)
3. Mae gen i offer newydd, y gorau yn y sir,
Rwyf newydd talu deuswllt am dair o eignion dur.
(Cytgan)
4. Mae gen i fwyell notid, on'd yw ei flaen hi'n bwt
A sledge a mandrel gwaelod, a phedar mandrel cwt.
(Cytgan)
5. Mae gen i far rhagorol, on'd yw ei fla'n hi'n fain,
A chrwt i gario'r cwrlo yn baglu fel y drain.
(Cytgan)
6. Rwy'n gallu cwto'n gwmmws, rwy'n gallu cwto'n gam,
Rwy'n gallu holio tano, a llenwi petair dram.
(Cytgan)
7. Rwy'n ennill sioe o arian, a'i rhoi fe i gyd mewn stôr,
A phan ddaw mis y 'fale, dw i eisiau dŵr y mor.
(Cytgan)
Cân y melinydd Dm - Em
1. Mae gen i dŷ cysurus A melin newydd sbon
A thair o wartheg brithion Yn pori ar y fron
Cytgan: Weli di, weli di, Mari fach
Weli di, Mari annwyl
2. Mae gen i drol a cheffyl A merlyn bychan twt
A deg o ddefaid tewion A mochyn yn y cwt
(Cytgan)
3. Mae gen i gwpwrdd cornel Yn llawn o lestri te
A dresel yn y gegin A phopeth yn ei le
(Cytgan)
4. Mae gen i ebol melyn Yn codi'n bedair oed
A phedair pedol arian O dan ei bedwar troed.
(Cytgan)
5. Mi neidith a mi brancith O dan y feinir wen,
Mi redith ugain milltir Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.
(Cytgan)
6. Mae gen i iâr a cheiliog, A buwch a mochyn tew
A rhwng y wraig a minnau, Wy'n ei gwneud hi yn o-lew!
(Cytgan)
7. Mae gen i iâr a cheiliog, Fe af â nhw i'r sioe
Mae'r iâr yn dodwy ŵy bob dydd A'r ceiliog yn dodwy doe
(Cytgan)
Cân yr ysbrydion G
1. Mi es pan oeddwn fachgen i Jones y gof i'r gellian
I mofyn barn ar dorri mawn ar ryw brynhawn fy hunan
Cytgan: Wac, ffol di ridl di rei, ffol di ridl di rei-do
2. Roedd Wil a Lewis Leysion yn gwella bachau crochon
A Siorsi Wil a Sioni Sam yn siarad am ysbrydion.
(Cytgan)
3. Daeth Wiliam Twm o'r felin a Nel i mewn dan chwerthin
Wrth sôn am ysbryd Mari Mwm yn dilyn Twm Penderyn.
(Cytgan)
4. Roedd ysbryd Siân yn gwnio a nyddu dan ei dwylo
YAc ysbryd Georgie bach Pencae ac ysbryd Wil yn siafo.
(Cytgan)
5. Fe welwyd ysbryd milgi ar ael y bryn yn llamu
Ac ysbryd gwas y Gelli Thorn ac ysbryd corn yn canu.
(Cytgan)
6. Roedd ysbryd cathau'n mewian ac ysbryd ieir yn crecian
Ac ysbryd morwyn Sioni Sam yn chwyrnu o flaen y pentan.
(Cytgan)
Canu fel cana'r aderyn D - F
1. Rwy’n canu fel cana’r aderyn, yn hapus yn ymyl y lli,
A dyna sy’n llonni fy nodyn, fod Iesu yn Geidwad i mi.
Cyigan: Mae’r lesu yn Geidwad i mi, mae’r Iesu yn Geidwad i mi.
‘R wy’n canu, yn canu wrth feddwl, fod Iesu yn Geidwad i mi.
2. ‘R wy’n gwenu fel gwena y seren, o’r nefoedd,, yn loyw ei bri;
A dyna paham ‘rwyf mor llawen, mae’r lesu yn Geidwad i mi.
(Cytgan)
3. Rwy’n wyn fel y lili fach, dyner, ‘rwy’n gwynnu yng ngwawl Calfari,
Gofalu amdanaf bob amser mae'r lesu sy’n Geidwad i mi.
(Cytgan)
Cardiff Born, Cardiff Bred D - G
Frank Hennessy - Celtic Heartbeat on Radio Wales 6pm - 8pm on Sundays
1. I learned to talk in Kaarddiff, I talks Kaardiff OK!
I learned it in a little school house At the bottom of Old Tiger Bay - because I'm
Chorus: Cardiff born and Cardiff bred, And when I dies I'll be Cardiff bred
They'll build a little plot in Splott In memory of me.
2. There were Russians and there were Germans, Pakistanis, Italians and Greeks.
I was the only Welshman there that knew the right way to speak.(Chorus)
3. Well I thought I'd take a vacation to Aber-wristwatch-on-Sea
When I arrrived at the station, there was nobody talkin' like me. because I'm (Chorus)
4. I was lookin' for a public convenience, A policeman comes walkin' along
He said 'Shwmmae fach'an' I said 'Ble mae'r tŷ-bach' he said 'down to the sea and straight on!' (Chorus)
5. Well Cardiff is a capital city, it's got the castle and the Arms Park
We're going to have as a mascot A great big AaaardVaaark
6. My name is Mohammed Ali, Mohammed Ali Jones
I've got Jamaica in my blood but Bute Street's in my bones. because I'm (Chorus)
7. 'Bore da' means 'Good mornin', 'Prynhawn da' means 'Good afternoon'
'Nos da bawb' means 'Goodnight all' and 'Ta-ra now' means 'See you all soon'. O yes I'm (Chorus)
Cardiff Bus Song C
1. There’s a place that’s always been for me,
On Cardiff’s streets that's where I loves to be,
And every stop I make, I make a new friend,
Can’t wait for long, just hop right on, and we’re gone again.
Chorus 1: Maindy, Tremorfa, Pontcanna, Adamsdown,
This Cardiff Bus is taking us to town.
2. Route 95 will take us to Barry,
But if it rains we'll take the 53,
And if you’re going out drinking for the night,
Just grab the bus, chips 'n' curry sauce, don’t have a fight!
Chorus 2: Llandaff, Gabalfa, Llanederyn, Cardiff Bay,
For three quid forty I can ride the bus all day.
Chorus 3: And every stop I make, I make a new friend,
Can’t wait for long, just hop right on, and we’re gone again.
Chorus 1: Maindy, Tremorfa, Pontcanna, Adamsdown,
This Cardiff Bus is taking us to town.
3. On sunny days in Roald Dahl Plass I’ll be,
When I gets old I’ll ride the bus for free,
Down in ol’ Tiger Bay and Riverside,
The bendy buses can take more of us for a ride.
Chorus 4: Splott, Canton, Ely, Llanrumney, Roath Park Lake,
Oh, Cardiff Bus is the only one I take.
4. The 62 goes to Pentrebane,
The 85 will take you to Lisvane,
And every stop I make, I make a new friend,
Can’t wait for long, just hop right on, and we’re gone again.
Chorus 1:Maindy, Tremorfa, Pontcanna, Adamsdown,
This Cardiff Bus is taking us to town.
Chorus 3: And every stop I make, I make a new friend,
Can’t wait for long, just hop right on, and we’re gone again.
Chorus 4: Splott, Canton, Ely, Llanrumney, Roath Park Lake,
Oh, Cardiff Bus is the only one I take.
Carmarthen Oak G
Frank Hennessy - Celtic Heartbeat on Radio Wales 6pm - 8pm on Sundays
1. As I roved out one morning going to Carmathen Fair
I spied a pretty maiden with the sunlight in her hair
Her way was so delightful Her voice rang like a bell
And as I overtook her I asked if she was well
Chorus: Lay down your brethyn shawl me love I swear it is no joke
And I'll tell to you the story of the old Carmathen oak
2. As we approached Carmathen the girl at me did stare
And she asked me why I raised my hat to a tree so old and bare
I told her of the legend if the tree should e'er come down
There'd be a great disaster and Carmathen would be drowned.
(Chorus)
3. Then she started laughing and my face grew very red
And she said that only fools believed what old Welsh legends said
Her laughter was contagious for the truth to you I'll tell
By the time I reached the market place I began to laugh as well.
(Chorus)
4. As I sit here by my fireside it's the autumn of my life
And the darling girl I met that day is now my darling wife.
I have a lovely daughter and a son to push my yoke
And all because I raised my hat to the Old Carmarthen Oak
(Chorus)
Chwarelwr E - G
Cytgan:
Chwarelwr ydywf i, a dyma yw fy nghân,
Gan obeithio bod amserau gwell i'w cael
Nag o dan y mynydd mawr, lle gwelodd neb y wawr
O na chaf unwaith eto weld yr haul.
1. Chwarelwr oedd fy nhad, a dyna ydwyf fi
Bu fy ngallu'n tyfu drwy fy mywyd oll
Ond gyda'r chwarel mawr yn cau, a swyddi yn lleihau
Rhaid dysgu sgiliau newydd neu fynd ar goll.
(Cytgan)
2. Caiff chwedlau'r hen chwarel fyw, am y caban, y taniwr a'r criw
Ac mae cyfle mawr i ganmol yr oes a fu.
Ond does dim gwaith yn ein pentre bach, ac i gadw'r teulu'n iach
Rhaid i mi deithio am waith a gadaell fy nhy.
(Cytgan)
3. O beth a ddaw o'm dawn a'm gwaith, a dyfodol yr hen iaith
Gyda'r pentre'n gwagio o bobol sydd fel fi
Yn symud eu teulu ymhell lle mae cyfle gwaith yn well
A phobol newydd yn dod i brynu eu hail dý?
Cwcw lon D - G
1. Wrth ddychwel tuag adref, mi glywais gwcw lon
Oedd newydd groesi'r moroedd i'r ynys fechan hon.
Cytgan: Holi a ci, Holiacici a holiacwcw, Holiacici a holiacwcw
Holiacici a holiacwcw, Holiacici a hoi
2. A gwcw gynta’r tymor, a ganai yn y coed
‘Run fath a'r gwcw gyntaf a ganodd gynta’ ‘rioed.
Cytgan (holiacwcw cwcw)
3. Mi drois yn ôl i chwilio y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau ble roedd y delyn mwyn.
Cytgan (holia cwcw
x3)
4. Mi gerddais nes dychwelais o dan fy medw bren,
Ac yno roedd y gwcw yn canu uwch fy mhen.
Cytgan (holia cwcw x4)
5. O diolch iti, gwcw, ein bod ni yma’n cwrdd;
Mi sychais i fy Ilygaid, a’r gwcw aeth i ffwrdd,
Cytgan (holia
cwcw x5)
Cwm Rhondda D - G
1. Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd Wrthrych teilwng o'm holl fryd:
Er o ran yr wy'n adnabod Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore Caf ei weled fel y mae.
2. Rhosyn Saron yw ei enw, Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur, Dyma'r llywydd ar y môr.
3. Beth sydd imi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni I'w gystadlu a'm Iesu mawr:
O! am aros Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
Cysga di fy mhlentyn tlws Dm - Em
1. Cysga di fy mhlentyn tlws (x 3)
Cei gysgu tan y bore (x 2)
2. Cysga di fy mhlentyn tlws
Wedi cau a chloi y drws
Cysga di fy mhlentyn tlws
Cei gysgu tan y bore (x 2).
Chwarelwr E - G (Alaw 'Working Man')
Cytgan: Chwarelwr ydwyf i, a dyma yw fy nghân
Yn gobeithio bod amserau gwell I’w cael
Nag o dan y mynydd mawr, lle gwelodd neb y wawr,
O na chaf i unwaith eto weld yr haul.
1. Chwarelwr oedd fy nhad, a dyna ydwyf fi
Bu fy ngallu'n tyfu drwy fy mywyd oll
Ond gyda'r chwarel mawr yn cau, a swyddi yn lleihau
Rhaid dysgu sgiliau newydd neu mynd ar goll.
(Cytgan)
2. Caiff chwedlau'r hen chwarel fyw, am y caban, y taniwr a'r
criw
Ac mae cyfle mawr i ganmol yr oes a fu.
Ond does dim gwaith yn ein pentre bach, ac i gadw'r teulu'n iach
Rhaid i mi deithio am waith a gadael fy nhŷ.
(Cytgan)
3. O beth a ddaw o'm dawn a'm gwaith, a dyfodol yr hen iaith
Gyda'r pentre'n gwagio o bobol sydd fel fi
Yn gadael i fyw ymhell lle mae cyfle gwaith yn well
A phobol newydd yn dod a phrynu eu hail dŷ?
(Cytgan)
Dacw Mam yn Dwad D
1. Dacw mam yn dwad ar ben y Gamfa Wen,
Rhywbeth yn ei ffedog, a phiser ar ei phen.
Y fuwch yn y beudy yn brefu am y llo,
A’r llo’r ochor arall yn chware Jim Cro
Cytgan: Jim Cro Crystyn, Wan, tŵ, ffôr,
A’r mochyn bach yn eistedd mor ddel ar y stôl.
2.Dafi bach a finna yn mynd i Aberdâr,
Dafi’n mofyn ceiliog, a finna’n mofyn giâr,
Dafi bach a finna yn mynd i ffair Llannonn,
Dafi’n hela dimai a finna’n prynu ffon.
(Cytgan)
3.Shoni brica moni yn berchen buwch a llo,
A gafar fach a mochyn a cheiliog go-go-go.
A cheiliog bach y dandi yn crio trwy y nos
Eisie benthyg ceiniog i brynu gwasgod goch.
(Cytgan)
Dacw 'nghariad i Dm
1. Dacw nghariad i lawr yn y berllan
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
O na bawn i yno fy hunan
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
Dacw'r ty a dacw'r sgubor, dacw ddrws y beudy'n agor
Cytgan: Ffal-di rwdl idl-al, Ffal-di rwdl idl-al
Tw rym-di ro rym-di radl idl-al
2. Roes fy mhen ar eneth dirion, (Tw rym di ....)
Hon sy' bron â thorri 'nghalon, (Tw rym di ....)
Wylo bu achos iddi hithau
wylo peth amdanaf finnau.
(Cytgan)
3. Dacw'r delyn, dacw'r tannau, (Tw rym di ....)
Beth ywf gwell heb neb i'w chwarae, (Tw rym di ....)
Daw'r fwynwen, heonus, dirion,
Beth wyf well heb gael ei chalon
(Cytgan)
4. Mae rhai mannau ar y mynydd, (Tw rym di ....)
ag sydd llawer gwell na'i gilydd, (Tw rym di ....)
A llefydd nad oes neb yn gwybod,
Felly hwythau y genethod.
(Cytgan)
Dacw ti yn eistedd (Cân gron) A - C
Dacw ti yn eistedd y Deryn Du,
Brenin y goedwig fawr wyt ti,
Can dere deryn can dere deryn,
Dyna un hardd wyt ti
Dau gi bach D
1. Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Esgid newydd am bob troed,
Dau gi bach yn dwad adre
Wedi colli un o’u sgidie,
Dau Gi Bach.
2. Dau gi bach yn mynd i’r coed
Dan droi’u fferau, dan droi’u troed,
Dwad adre hyd y pylle,
Blawd ac eisin hyd eu coese,
Dau gi bach.
Daw hyfryd fis Mehefin (Cân gron - Round) A - C
Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir
A chlywir y gwcw'n Canu'n braf yn ein tir.
Defaid William Morgan D
1. Mae rhywbeth bach yn poeni pawb. Nid yw ‘run fath ym
mhobman.
A’r hyn sy’n poeni’r ardal hon Yw defaid William
Morgan.
Cytgan: Defaid William Morgan, Defaid William Morgan,
Yr hyn sy’n poeni’r ardal hon Yw defaid William Morgan.
2. Waeth heb na phlannu nionod bach Na letys na chabatsen.
Chaiff neb eu profi, dyma’r gwir, Ond defaid William Morgan.
(Cytgan)
3. A phan ddaw’r haf, cânt fynd i gyd I gorlan ar Foel
Faban,
A chawn ymwared am ryw hyd  defaid William Morgan.
(Cytgan)
Dere, dere D - G
1. Fe gwyd yr haul
er machlud heno,
Fe gwyd y ser yn ddisglair
eto,
Mi gwyd y blodau
o’r ddaear dirion,
O-o-o-o pa bryd y cwyd
fy nghalon?
<>Dere machgen i, Dere dere, Dere dere O.
2. Mi gwyd y niwl o
lawr y dyffryn,
Mi gwyd y gwynt i
siglo’r brigyn,
Mi gwyd y mor yn
donnau gwynion,
O-o-o-o, pa bryd y cwyd
fy nghalon?
Dere machgen i, Dere dere, Dere dere O.
3. (bachgen) Mi wn am ferch yn
sir Forgannwg
Hyfryd ei thwf a
theg ei golwg
Ai gwallt
modrwyog a’i bronnau gwynion
A duwch uffern yn
ei chalon
Dere machgen i, Dere dere, Dere dere O
3. (merch)
Deryn y bwn o’r Banna C/D
1. Deryn y Bwn o’r Banna Aeth i rodio’r gwylia
Lle disgynnodd o ar ei ben, ar ei ben,
Ond i bwn o fala.
2. Deryn y Bwn a gododd Y fala i gyd a gariodd
Dros y Banna i farchnad CaerI,
Ac yno’n daer fe’u gwerthodd.
3. Fala fala filoedd, Fala melyn laweroedd;
Y plant yn gweiddi am fala’n groch, fala'n groch,
Rhoi dima goch am gannoedd.
4. Deryn y Bwn aeth adra Yn ôl dros ben y Banna:
Gwaeddai: “Meistres, O gwelwch y pres,
Gwelwch y pres, A ges i wrth werthu gala.”
Diofal yw'r aderyn C/D
Diofal yw'r aderyn
Ni hau, ni fed un gronyn;
Heb un gofal yn y byd
Mae'n canu hyd y flwyddyn.
Cytgan: Dymili dymili dymili dymili,
Dymili dymili dymili dymili, Rew di rew di ranno, Rew di rew di ranno,
Heb un gofal yn y byd
Mae'n canu ar hyd y flwyddyn
2. Fe fwyta'i swper heno
He wybod ble mae'i ginio;
Dyna'r modd y mae yn byw,
A gad i Dduw ei arlwyo
(Cytgan)
Dros Gymru'n gwlad C/D (Lewis Valentine = Alaw 'Ffinlandia')
1. Dros Gymru’n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri,
Y winllan wen a
roed i’n gofal ni;
D’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth,
A boed i'r gwir a’r glân gae1 ynddi nyth;
Er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo’i hun,
O! crea hi yn Gymru ar dy
lun.
2. O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau
gwyw,
A’r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn
ffrwythlon iddo Ef;
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry
haeddiannau’r Addfwyn Oen.
Elen o Elen D - G
Cytgan: Elen, o Elen, o Elen tyrd yn ôl, paid â bod mor
ffôl â’m gadael i ar ôl,
Elen, o Elen, o Elen tyrd yn ôl, Elen, rwy’n dy garu
di.
1. Mi gwrddais hi yr ochr draw i'r bryn lle mae'r merched glana yn y
sir,
Ond y hi Elen fwyn yw'r orau ôll i gyd ac mi gaf ei charu cyn
bo hir.
(Cytgan)
2. Mae ei grudd 'run lliw a brest y robin goch a'i gwallt sy'n union
fel y frân
Ac wrth ei gweled hi yn cerdded yn y dre mae nghalon fach yn mynd ar
dân.
(Cytgan)
3. Bûm yn ei chanlyn hi ble bynnag 'roedd yn mynd ac o'r diwedd
gofynnais iddi hi,
O Elen, Elen fwyn a gaf fi'th briodi di, o f’anwylyd rwy'n dy
garu di.
(Cytgan)
4. Ei hateb aeth i'm calon i fel saeth, cans na ddywedodd wrthyf
fi,
Ond rwyf am ei chanlyn hi ble bynnag mae yn mynd,
O! f'anwylyd rwy'n dy garu di.
(Cytgan)
Ffarwel i blwy' Llangower C/D
1. Ffarwel i blwy' Llangower a’r Bala dirion deg.
Ffarwel, fy annwyl gariad, nid wyf yn enwi neb;
Rwy’n mynd i wlad y Saeson a’m calon fel y plwm,
I ddawnsio a flaen y delyn ac i Chwarae o flaen y drwm.
2. Ffarwel i'r Glyn a’r Fedw, a llethrau’r hen Gefn
Gwyn.
Ffarwel i'r Llan a’i dwrw, a llwybrau min y llyn:
Wrth ganu’n iach i Feirion, os yw fy llais yn llon,
Yn swn ei hen alawon - O! y pigyn sydd dan fy mron.
Fflat Huw Puw G
1. Mae swn yn Mhorthdinllaen, swn hwylie'n codi:
Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi:
Ni fedra'i aros gartre yn fy myw;
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Cytgan: Fflat Huw Puw yn hwylio heno, sŵn codi angor; mi fyna'i fynd
i forio:
Mi wisga'i gap pig gloew tra bydda'i byw,
Os cai fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
2. Mi bryna'i yn y Werddon sane sidan,
Sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian;
Mi fyddai'n wr bonheddig tra bydda'i byw,
Os ca i fynd yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.
(Cytgan)
3. Mi gadwai'r Fflat fel parlwr gore,
Bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore;
Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw,
Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.
(Cytgan)
Ffoles Llantrisant D
1. Mae gen i iâr, mae gen i geiliog,
Mae gen i gywan felan fochog,
Cytgan: Mae gen i ffansi fawr iawn i dy garu,
Pe cawn i lonydd gan y diogi.
2. Du yw y nos, du yw y gae-a,
Duach na du yw 'nghalon inne
(Cytgan)
3. Oer yw y rhew ac oer yw yr eira,
Oer yw y tŷ heb ddau yn y Gae-a,
(Cytgan)
4. Hyfryd yw gweld yr haul yn y bore
Pan fydd y byd i gyd ar ei ore,
(Cytgan)
Fuoch chi 'rioed yn morio? D
1. Fuoch chi 'rioed yn morio?
Wel do, mewn padell ffrio,
Chwythodd y gwynt fi i'r Eil o Man,
A dyna lle bum i'n crio.
2. Crio'n arw, arw,
Dim byd ond tywydd garw,
Be glywn i'n rhywle uwch fy mhen
Ond gwylan wen yn galw.
3. Gwylan wen yn galw –
Wel wir mae'n biti garw;
Rhaid iti aros hanner dydd
Yn llonydd am y llanw.
4. Llanw'n dwad wedyn,
A'r gwynt yn troi yn sydyn:
Lansio'r badell ar y gro,
A nofio'n ôl i Nefyn.
Gee ceffyl bach A - D
Gee ceffyl bach yn cario ni'n dau
Dros y mynydd i hela cnau
Dwr yn yr afon a cherrig yn slic,
Cwympo ni'n dau, wel dyna'i chi dric.
Gwcw fach Am
1. Gwcw fach, ond wyt ti'n ffolog, Ffal di ral di rw dw ri ral tai
to!
Canu 'mhlith yr eithin pigog, Ffal di ral di rw dw ri rai tai to,
Dos i blwy Dolgelle dirion, Ffal dir ral di rw, di rai tai to.
Ti gei yno, lwyni gwyrddion. Ffal di ral di rw, dw ri rai tai to.
2. Gwcw fach ehed yn union, (Ffal..) Tua glan yr afon Wnion (Ffal..)
Ar dy aden aros ennyd, (Ffal..) Wrth aneddle fy anwylyd (Ffal..).
3. Gwcw fach, os yno gweli (Ffal..), rywun wyla'r dwr yn heli (Ffal..),
Cana gân y gwanwyn iddo (Ffal..), cân o obaith i'w gysuro (Ffal..).
Gwen a Mair ac Elin C - D
1. Gwen a Mair ac Elin yn bwyta lot o bwdin
A Benja bach yn mynd o'i go, a chrïo'n anghyffredin.
2. Ifan bach a minne yn mynd i Lunden Glame;
Mae'r gwynt yn oer a'r ffordd yn bell, mae'n well inni aros gartre.
3. Ifan bach a minne yn mynd i Lunden Glame
I roddi cyfraith ar y gath am yfed lla'th y bore.
4. Codi'n fore, fore, affrwyno'r gaseg wine,
Modryb Sian a f'ewyrth Sion yn synnu `nhraed eu sane.
Gwenni aeth i ffair Pwllheli D - E
1. Gwenni aeth i ffair Pwllheli,
Eisie padell bridd oedd arni,
Rhodd amdani chwech o syllte,
Costie gartre ddwy a dime,
Cytgan: Simpl, siampl, ffinistr, ffanstr,
Doedd rhyw helynt fawr ar Gwen.
2. Gwenno aeth yn fore i doro,
Gwerth y chweswllt rhwyng ei dwylo,
Rhodd y fuwch un slap â’i chynffon
Nes oedd y chweswllt bron yn deilchion.
(Cytgan)
3. Gwenni aeth yn fore i olchi,
Eisie dillad glân oedd arni,
Tra bu Gwen yn nôl y sebon,
Y dillad aeth i lawr yr afon.
(Cytgan)
Gwenno Penygelli D - E
1. Rwy'n ddeg-ar-hugain oed ac arna'i chwant priodi
Ag eeneth ysgafn droed fel Gwenno Penygelli,
Mae ganddi ddillad crand a mae hi'n eneth bropor,
A deg punt yn y banc ar ôl ei modryb Gaenor.
Cytgan: Di wec ffal-di-lal-lal-la,
Di wec ffal-di-lal-lal-la, Di wec ffal-di-lal-lal-la, la-la-la.
2. Mae gen i het Jim Cro yn barod i fy siwrne,
A sgidie o groen llo a gwisg o frethyn cartre',
Mae gen i dy yn llawn yn barod i'w chroesawu,
A phedair tas o fawn a dillad ar fy ngwely.
(Cytgan)
3. Mae gen i ddafad ddu yn pori ar Eryri,
Chwiaden, cath a chi a gwartheg lond y beudy ;
Mi fedraf dasu a thoi a chanu, a dal yr arad,
A gweithio heb ymdroi a thorri gwrych yn wastad.
(Cytgan)
4. Roedd yno bwdin pys, a hwnnw ar hanner berwi,
Y cwc wedi trr'i bys, a cholli'r cadach lestri
Cig y mwyharen ddu yn wydn yn ei gymalau,
Potes maip yn gri, a chlobyn o baste fale.
(Cytgan)
Gyrru'r Ychen D - G
1. 0 Mari, Mari cwyd, mae heddiw’n fore mwyn,
Mae’r adar bach yn canu, a’r gwcw ar y liwyn.
Hw! ‘m1ân, Hw! ! ‘m1ân, Hw! !
2. Fe aeth y Chwefror chwith, aMawrth aeth ar ei ôl,
Ac Ebrill sydd yn gwasgar briallu ar y ddôl.
Hw! ! ‘m1ân, Hw! ! ‘m1ân, Hw! !
3. Ymlân fy ychen dni, ymlân ynghynt a ni,
Ymlân i ben y dalar, y braenar yw em bri.
Hw! ! ‘mlân, Hw! ! ‘mlân, Hw! !
4. Ymlân y duon, ewch! dos dithe’r liwyd ar ras!
Neu’r haf a ddaw a ninne heb dorri’r gwndwn glas.
Hw! ! ‘m1ân, Hw! ! ‘m1ân, Hw!
Harbwr Corc G
1. Yn harbwr Corc yr oeddwn, ryw fore gyda'r dydd, Gyda'r dydd,
O hogia bach, ryw fore gyda'r dydd,
A phawb oedd yno'n llawen, 'doedd yno neb yn brudd, neb yn brudd,
O hogia bach, 'doedd yno neb yn brudd.
2. O Rhisiart, medde Morus, a Morus, medde Twm, medde Twm,
O hogie bach, a Morus, medde Twm:
Well inni riffio'r hwylie, cyn del y tywydd trwm, tywydd trwm,
O hogie bach, cyn del y tywydd trwm.
3. O Twm Co bach a Morus, mae'n bygwth gwynt a glaw, gwynt a
glaw,
O hogie bach mae'n bygwth gwynt a glaw;
Daw'r cesyg gwynion allan—a Twm yn ateb 'taw', ateb 'taw',
O hogie bach, a Twm yn ateb 'taw'.
4. Daw'r gwynt yn ôl i'r gogledd, cawn eto dywydd teg, tywydd
teg,
O hogie bach, cawn eto dywydd teg;
A bydd y llong yn cerdded, ag asgwrn yn ei cheg, yn ei cheg,
O hogie bach, ag asgwrn yn ei cheg.
Harbwr diogel D
Cytgan: Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro
Rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro
Rhywbeth amdanat ti na fedra i ddianc rhagddo
Rhywbeth amdanat ti na fedra i fyth anghofio
1. Wrth weld y casineb fel cancr ymhob gwlad
A gweld y diniwed yn nofio rhwng y gwaed
Wrth weld y nos yn cau allan yn dynn
Fyddai ddim yn colli fydd, Amser hynny byddai'n diolch
(Cytgan)
2. Wrth weld y tyrrau uchel yn syrthio i'r llawr
A chlywed gelynion yn herio ofo'u geiriau mawr
Wrth weld y byd 'ma o dan ac yn mynd yngholl
Fyddai'n anobeithio;- amser hynny byddai'n diolch
Cytgan Canol: Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro
Rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i 'nghalon i guro
Ti yw'r harbwr diogel yn nghanol y storm
Ti yw'r breichiau cadarn i'm cadw rhag ofn, O i'm cadw fi rhag
ofn
Cytgan olaf: Mae 'na rywbeth amdanat ti na fedra i egluro
Rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud fy 'nghalon i guro
Rhywbeth amdanat ti sy'n wahannol i bawb arall
Rhywbeth amdanat ti sy'n gwneud i'n llawer gryfach
Rhywbaeth amdanat ti, Rhywbaeth amdanat ti, Rhywbaeth amdanat ti.
Hen fenyw fach Cydweli E - G
1. Hen fenyw fach Cydweli yn gwerthi losin du,
Yn rhifo deg am ddime, ond unarddeg i mi.
Wel dyna’r newydd ore ddaeth i mi, i mi
Oedd rhifo deg am ddime, Ond unarddeg i mi.
2. Mi es i Faes y Croese, mi ges i groeso mawr,
A fale wedi’u pobi a stôl i eiste’ i lawr:
Wel dyna’r newydd ore ddaeth i mi, i mi,
A fale wedi’u pobi A stôl i eiste’ i lawr.
3. Mae gen i fegin newydd a honno’n llawn o wynt;
Mae’r byd yn gwenu arnaf fel yn y dyddiau gynt:
Wel dyna’r newydd ore ddaeth i mi, i mi,
Mae’r byd yn gwenu arnaf Fel yn y dyddiau gynt.
Hen ferchetan Dm
1. Hen Ferchetan wedi colli’i chariad (Ffal-di-ral ti ral-tal, Ffal-di-ral-di-ro)
Cael un arall dyna oedd ei
bwriad (Ffal-di-ral ti ral-tal, Ffal-di-ral-di-ro)
Ond nid oes un o lanciau’r pentre (Ffal-di-ral ti ral-tal, Ffal-di-ral-di-ro)
Am briodi Lisa Fach yr
Hendre. (Ffal-di-ral ti ral-tal, Ffal-di-ral-di-ro)
2. Hen Ferchetan sydd yn dal i drïo, Gwisgo lasie sidan ac
ymbincio.
Ond er bod brân i frân yn rhywle, Nid oes neb i Lisa Fach
yr Hendre
3. Hen Ferchetan bron â thorri’i chalon, Mynd i’r
llan mae’r holl o’r hen gariadon.
Bydd tatws newydd ar bren fale, Cyn briodith Lisa Fach yr Hendre.
4. Hen Ferchetan aeth i Ffair y Bala, Gweld Siôn Prys yn
fachgen ddigon smala.
Gair a ddywedodd wrth fynd adre, Cododd galon Lisa Fach yr
Hendre.
Heno, heno A - E
1. Heno, heno, hen blant bach, Heno, heno, hen blant bach, Cytgan: Dime, dime, dime,
hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach.
2. Gwely, gwely, hen
blant bach, Gwely, gwely, hen blant bach, (Cytgan) 3. Fory, fory, hen blant
bach, Fory, fory, hen blant bach,
(Cytgan)
Hiraeth A - D
1. Dwedwch fawrion o wybodaeth, O ba beth y wnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo na ddarfyddo wrth ei wisgo?
Cytgan: Derfydd aur a derfydd arian, Derfydd melfed, derfydd
sidan;
Derfydd pob dilledydn helaeth, Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth.
2. Hiraeth mawr a hiraeth creulon, Hiraeth sydd yn torri
'nghalon;
Pan fwy 'n drwm y nos yn cysgu, Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry.
(Cytgan)
3. Hiraeth, hiraeth cilia cilia, Paid â phwyso mor drwm
arna';
Nesa dipyn at yr echwyn, Gad i mi gael cysgu gronyn.
(Cytgan)
Hob y deri dando D
1. Ni fu ferch erioed cyn laned, Hob y deri dando,
Ni fu ferch erioed cyn wyned, Hob y deri dando,
Ni fu un o ferched dynion, Siân fwyn Siân, Nes na hon at
dorri 'nghalon
Cytgan: Siân fwyn tyrd i'r llwyn, Glanaf oll yw Siani fach fwyn
(x2)
2. Gwyn eu byd yr adar gwynion, hwy a ânt i'r fan a fynnon,
Weithiau i'r môr a weithiau i'r mynydd, Hwy ânt yno yn
ddigerydd. .
(Cytgan)
3. Tros y môr y mae fy 'nghalon, tros y môr mae fy
ochneidion,
Tros y môr y mae f'anwylyd, sy'n fy meddwl i bob munud.
(Cytgan)
Hymns and arias C (Max Boyce)
1. We gathered up our shillings for the January trip,
A whole weekend in London, without a bit of kip!
There's a seat reserved for beers for the boys from Abercarn,
There's crisps and cards and beer and fags and a croaking 'Calon
Lân'.
Chorus: And we were singing hymns and arias,
Land of my Fathers, Ar Hyd y Nos.
2. We rolled into Paddington with an empty crate of ale.
Will has lost at cards and now his Western Mail's for sale.
But Will is very happy though his money is all gone
For he swapped two photos of his wife for one of Barry John,
(Chorus)
3. We arrived at Twickers early and we jostled with the crowd,
Looked for toilets all around, but none there to be found.
So many there, we couldn't budge, twisted legs and pale,
So we had to use a bottle that once held bitter ale,
(Chorus)
4. Wales defeated England in a fast and open game.
We sang 'Delilah' and 'Cwm Rhondda', Duw they sounded just the
same.
We sympathised with an Englishman whose team was doomed to fail
And we gave him that old bottle that once held bitter ale,
(Chorus)
5. So it's down to Soho for the night to the girls with the shiny
beads,
With short, short skirts and makeup on and wicked minds and
deeds.
One called to Will from a doorway, Duw she didn't have much on,
But he knew what she was after - his photograph of Barry John,
(Chorus)
I bob un sy'n ffyddlon D - E
1. I bob un sy’n ffvddlon, Dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron Fry yn Nheyrnas Nef;
Lluoedd Duw a Satan sydd yn cwrdd yn awr –
Mae gan blant eu cyfran yn y rhyfel mawr.
Cytgan: I bob un sydd fyddlon, dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron fry yn Nheyrnas Nef
2. Medd-dod fel Goliath heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara, gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu'i geyrydd, rhaid cael pawb yn rhydd,
(Cytgan)
3. Awn i gwrdd y gelyn, bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i'n
herbyn a'i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau acw sydd
o'n tu.
(Cytgan)
Iechyd da i chi foneddigion D - F
1. Iechyd da i chi foneddigion, dewch i weld os yw’r gwin yn
dda.
Cytgan (x2): Dewch i weld, O, la, la, dewch i weld, O, la, la,
Dewch i weld os yw’r gwin yn dda,
2. Peidiwch dweud with y diaconiaid rhag i ni gael ein torri
mâs.
(Cytgan)
3. Claddwch fi pan y byddwyf farw mewn cell win lle mae’r gwin
yn dda.
(Cytgan)
4. Rhowch fy nhraed with y mur i onffwys, rhowch fy mhen jest o dan y
tap.
(Cytgan)
5. Ar fy medd gallwch ysgrifennu, dyma fedd y meddwyn mwya
‘rioed.
(Cytgan)
I mewn i'r arch â nhw D - F
1. Yr ellifant mawr a'r cangarw i mewn a'r arch â nhw
Ni welsoch chi 'rioed y fath halibalw i mewn a'r arch â nhw
Cytgan: Ribidi, ribidi, ribidrês (x 2)
Ribidirês, ribidirês, i mewn i'r aech â nhw.
2. Dau fustach, dau darw, dwy Fuwch a dau Lo imewn a'r arch â nhw
A dau aligêtor a dau hipopo i mewn a'r arch â nhw.
(Cytgan)
3. Jiráff mawr melyn a'i gyddfai fel rhaff i mewn a'r arch â nhw
Yn fawr iawn eu diolch am gael bod yn saff i mewn a'r arch â nhw.
(Cytgan)
4. Y llygoed oedd yno, un bach ac un mawr i mewn a'r arch â nhw
Yn rhedeg o gwmpas ar ras hyd y llawr i mewn a'r arch â nhw
(Cytgan)
Lawr ar lan y môr F - G
1. Mi gwrddais i â merch fach ddel, Lawr ar lan y môr,
(Lawr ar lan y môr x2)
Mi gwrddais i a merch fach ddel, Lawr ar lan y môr, Lawr ar lan
y môr.
Cytgan: O, o, o rwy'n ei charu hi, O rwy'n ei charu di, yr eneth ar
lan y môr. (x 2)
2. Gofynnais i am gusan fach, Lawr ar lan y môr.....
(Cytgan)
3. Mi gefais i un gusan fach, Lawr ar lan y môr. ....
(Cytgan)
4. Rhyw ddiwrnod fe'i priodaf hi, Lawr ar lan y môr. ....
(Cytgan)
Lisa lân D
1. Bûm yn dy garu lawer gwaith, do lawer awr mewn mwynder maith
Bum yn dy gusanu Lisa gêl, yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.
2. Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd, tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri, a thi sy'n dwyn fy mywyd i.
3. Pan fyddai'n rhodioi yn yr ardd, ymysg y blodau sydd mor hardd
Wrth glywed swn yr adar man, daw hiraeth mawr am Lisa Lân
4. Pan fyddwy'n rhodio gyda'r dydd, fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
Wrth glywed swn yr adar mân, daw hiraeth mawr am Lisa lân.
5. Pan fyddwy'n rhodio gyda'r hwyr, fy nghalon fach a dôdd fel cwyr.
Wrth glywed swn yr adar mân, daw hiraeth mawr am Lisa lân.
Lleucu Llwyd D
Cytgan: Lleucu Llwyd, rwyt ti'n hardd, Lleucu Llwyd rwyt ti'n werth y
byd i mi.
Lleucu Llwyd, rwyt ti'n angel, Lleucu Llwyd rwy'n dy garu di o
hyd.
1. O! rwy'n cofio cwrdd â thi Ac rwy'n cofio'r glaw,
Ydy'r eos yn y goedwig? Ydy'r blodau yn y maes gerllaw?
Yn yr afon mae cyfrinach ein cusan cynta' ni,
Ac mae'r blodau yn y goedwig yn sibrwd dy enw di.
(Cytgan)
2. O! mae'r oriau mân yn pasio fel eiliad ar adain y gwynt,
A gorweddaf ar fy ngwely, efallai daw'r freuddwyd yn gynt,
O! mae rhywun yn agosáu, mi glywaf wichian y glwyd,
Ac rwy'n nabod swn yr esgid – mae'n perthyn i Lleucu Llwyd. )
(Cytgan)
Llongau Caernarfon Em
1. 'Mae'r holl longau wrth y cei yn llwytho
Pam na chawn i fynd fel pawb i forio?
Dacw dair yn dechrau warpio, ac am hwylio heno
Birkinhead, Bordô a Wiclo.'
Toc daw'r stemar bach i dowio
Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio.
2. Pedair llong wrth angor yn yr afon
Aros teit i fynd tan Gastell C'narfon
Dacw bedwar golau melyn, a rhyw gwch ar gychwyn
Clywed swn y rhwyfau wedyn
Toc daw'r stemar bach i dowio
Golau coch ar waliau wrth fynd heibio.
3. Llongau'n hwylio draw a llongau'n calyn
Heddiw, fory ac yfory wedyn
Mynd â'u llwyth o lechi gleision Dan eu hwyliau gwynion
Rhai i Ffrainc a rhai i'r Werddon
O na chawn i fynd ar f'union
Dros y môr a hwylio'n ôl i Gaernarfon.
4. Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr
Oes 'na le i hogyn fynd yn llongwr
A chael spleinsio rhaff a rhiffio A chael dysgu llywio
A chael mynd mewn cwch i sgwlio
O na chawn i fynd yn llongwr
A'r holl longau'n llwytho yn yr harbwr
Llymaid bach o gwrw Em
1. Mae effaith ffrwythau chwerw yn dda i ddyn rhag marw;
A dyna'r peth wna dyn yn iach Yw llymaid bach o gwrw.
2. Pe buasai'r brag a'r barman a'r hops heb ddod o'r unman
A'r ffiol bach a'r pib a'r pot, mi fuasai 'nghot yn gyfa.n
3. Dw i ddim yn licio licor, na bryna'i bart o borter.
Pan fyddai'n trfeilio ymhell, mae cwrw'n well o lawer.
4. Thomas Prosser Slasher a Bili Altogether,
Ar ddydd Sul yn feddw iawn, yn cwympo lawr y gwter
Mae gen i fuwch wynebwen lwyd (Ton ton ton) Em
Pennill: ||Em|D|C|Bm| G|Am|Bm|Em|
G|D|C|Bm| G|Am|Bm|Em||
Cytgan: ||Em|D|C|Bm| G|Am|Bm|Em||
1. Mae || gen i fuwch wyn-|-ebwen lwyd, | ie fyth, wyn-|-ebwen lwyd,
Mae | gen i fuwch wyn-|-ebwen lwyd, hi | aiff i'r glwyd i | ddodwy. | A'r iâr fach yn | glaf ar lo, | ie fyth, yn | glaf ar lo, | A'r iâr fach yn | glaf ar lo, nid | aiff o ngho i | 'leni.||
Cytgan: ||Ton ton ton dyri | (x3), ton ton ton ; | Ton ton ton dyri |(x3),
ton ton.||
2. Saith o adair man y tô, ….., nid ffrai wrth daflu
disiau;
A'r ddylluan a'i phig gam, ……, yn chwerthyn am eu pennau.
(Cytgan)
3. Mae gen i 'sgfarnog gota goch, ……, a dwy gloch wrthi'n
canu;
A dau faen melyn yw ei phwn, ……, yn maeddu milgwn Cymru.
(Cytgan)
Mae 'nghariad i'n Fenws D - G
1. Mae 'nghariad i'n Fenws, mae 'nghariad i'n fain,
Mae 'nghariad i'n dlysach na blodau y drain.
Fy 'nghariad yw'r lanaf a'r wynna'n y sir,
Nid canmol yr ydwyf, ond d'wedyd y gwir.
2. Wych eneth fach annwyl sy'n lodes mor lân,
A'i gruddiau mor writgoch, a'i dannedd mân mân,
A'i dau lygad siriol, a'i dwy ael fel gwawn;
Fy nghalon a'i carai pe gwyddwn y cawn.
3. Mae 'nghariad i'n caru fel cawod o law,
Weithiau ffordd yma ac weithiau ffordd draw ;
Ond cariad pur ffyddlon, ni chariff ond un –
Y sawl a gâr
lawer gaiff fod heb yr un.
Mae'n wlad i mi C - F (Alaw 'This land is your land')
(Dafydd Iwan - Cyhoeddiadau Sain)
Cytgan: Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau,
O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau,
O’r De i’r
Gogledd, o Fôn i Fynwy,
Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi.
1. Mi fum yn crwydro hyd lwybrau unig, ar foelydd meithion yr hen
Arenig,
A chlywn yr awel yn dweud yn dawel, “Mae’r wlad hon yn
eiddo i ti a mi.”
(Cytgan)
2. Mi welais ddyfroedd Dyfyrdwy’n loetran,
Wrth droed yr Aran ar noson loergan,
A’r tonnau’n sisial ar lan Llyn Tegid, “Mae’r
wlad hon yn eiddo i ti a mi.”
(Cytgan)
3. Mae tywod euraidd ar draeth Llangrannog
A’r môr yn wyrddlas ym mae Llanbedrog:
O dan yr eigion mae clychau’n canu, “Mae’r wlad hon yn
eiddo i ti a mi.”
(Cytgan)
Mae’r Iesu yn geidwad i mi C - E
1. Rwy’n canu fel cana’r aderyn, yn hapus yn ymyl y
lli,
A dyna sy’n llonni fy nodyn, fod Iesu yn Geidwad i mi.
Cytgan: Mae’r lesu yn Geidwad i mi, mae’r Iesu yn Geidwad i
mi.
Rwy’n canu, yn canu wrth feddwl, fod lesu yn Geidwad i mi.
2. Rwy’n gwenu fel gwena y seren, o’r nefoedd,, yn loyw ei
bri;
A dyna paham ‘rwyf mor llawen, mae’r lesu yn Geidwad i mi.
(Cytgan)
3. Rwy’n wyn fel y lili fach, dyner, rwy’n gwynnu yng
ngwawl Calfari,
Gofalu amdanaf bob amser mae'r lesu sy’n Geidwad i mi.
(Cytgan)
Marwnad yr ehedydd Dm/Em
1. Mi glywais for yr 'hedydd wedi marw ar y mynydd ;
Pe gwyddwn i mai gwir y geiriau, awn a gyrr o wyr ac arfau,
I gyrchu corff yr 'hedydd adre.
2. Mi glywais fod yr hebog eto'n fynych uwch y fawnog,
A bod ei galon a'i adenydd wrth fynd heibio i gorff yr 'hedydd
Yn curo'n llwfr fel calon llofrudd.
3. Mi a glywais fod cornchwiglan yn ei ddychryn i ffwrdd o'r
siglan
Ac na chaiff, er dianc rhagddi, wedi rhusio o dan y drysni,
Ond aderyn y bwn i'w boeni.
Mi glywaf dyner lais (Gwahoddiad) C
1. Mi glywaf dyner lais yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi ‘meiau
i gyd yn afon Calfari.
Cytgan: Arglwydd, dyma fi, ar dy alwad Di;
Canna f’enaid yn y
gwaed a gaed ar Galfari.
2. Yr lesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint
Ffydd, gobaith, cariad pur, a hedd a phob rhyw nefol fraint.
(Cytgan)
3. Yr lesu sy’n cryfhau o’m mewn ei waith trwy ras;
Mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan i faeddu ‘mhechod
cas.
(Cytgan)
4. Gogoniant byth am drefn y cymod a’r glanhad:
Derbyniaf lesu fel yr wyf, a chanaf am y gwaed.
(Cytgan)
Mi welais Jac y Do D - G
1. Mi welais Jac y Do yn eistedd ar ben to
Het wen ar ei ben a dwy goes bren
Ho ho ho ho ho ho.
2. Mi welais iar fach yr ha yn mynd i werthu ffa
Fe'i gwerthodd yn rhes ond collodd y pres
Ha ha ha ha ha ha
3. Hen fwnci bach o Lŷn a aeth i dynnu'i lun
Edrychodd yn syn a chwarddodd fel hyn
Hi hi hi hi hi hi.
4. Hen geiliog dandi do a redodd i'r cwt glo
Mi welodd gi mawr a gwaeddodd fel cawr
Go go go go go go.
5. Daeth mochyn bach i'r dre i chwilio am bwys o de
Fe welodd ful bach yn rhowlio mewn sach
He he he he he he
Migldi magldi C - D
1. Ffeind a difyr ydyw gweled, Migldi, Magldi, Hei Now Now
Drws yr efail yn agored, Migldi, Magldl, Hei Now Now
A'r gof bach a'i wyneb purddu, Migldi, Magldi, Hei Now Now
Yn yr efail yn prysur chwythu, Migldi, Magldi, Hei Now Now
2. Ffeind a difyr hirnos gaea', (Migldi ...) Mynd i'r efail am y
cynta', (Migldi ...)
Pan fo rhew ac eira allan ..(Migldi ...) Gorau pwynt fydd wrth y pentan.
.(Migldi ...)
3. Ffeind a braf yw swn y fegin, .....Gwrando chwedl, cân ac
englyn, ...
Pan fo'r cwmni yn ei afiaith, .... Ceir hanesion lawer
noswaith....
4. Pan ddaw'r mor i ben y mynydd, ... A'i ddwy ymyl at ei gilydd,
...
A'r coed rhosys yn dwyn fala, ... Dyna'r pryd y cei di finna. ...
Milgi, milgi D - G
1. Ar ben y bryn mae sgwarnog fach, ar hyd y nos mae'n pori
A'i chefen brith a'i bola bola gwyn yn hidio dim am filgi
Cytgan: Milgi milgi milgi milgi, rhowch fwy o fwyd i'r milgi,
Milgi milgi milgi milgi, rhowch fwy o fwyd i'r milgi.
2. Ac wedi rhedeg tipyn tipyn bach, mae'n rhedeg mor ofnadwy
Ac un glust lan a'r llall i lawr, yn dweud ffarwel i'r milgi.
(Cytgan)
3. 'Rôl rhedeg sbel mae'r milgi chwim yn teimlo'i fod e'n
blino
A gweler ef yn swp yn swp ar lawr mewn poenau mawr yn gwingo.
(Cytgan)
4. Ond dal i fynd wna'r swarnog fach a throi yn ôl i wenu
Gan sboncio'n heini dros y bryn yn dweud ffarwel i'r milgi.
(Cytgan)
Mochyn du C/D
1. Holl drigolion bro a bryniau, dewch i wrando hyn o eiriau,
Fe gewch hanes rhyw hen fochyn a fu farw yn dra sydyn.
Cytgan: O mor drwm yr ydym ni(x2), y mae yma alar calon ar ôl
claddu’r mochyn du.
2. Fe rowd mwy o faidd i’r mochyn n’allsai fola bach e
dderbyn,
Ymhen chydig o funude roedd y mochyn yn mynd adre.
(Cytgan)
3. Rhedodd Deio i Lwyncelyn i mofyn Mati at y mochyn;
Dwedodd Mati wrtho’n union gallsai roi e heibio’n burion.
(Cytgan)
4. Mofyn hers o Aberteifi a cheffylau i’w thynnu fyny,
Y ceffylau yn llawn mwrnin er mwyn dangos parch i’r mochyn.
(Cytgan))
5. Melys iawn yw cael rhyw sleisen o gig mochyn gyda’r
daten,
Ond yn awr rhaid byw heb hwnnw, y mochyn du sydd wedi marw.
(Cytgan)
6. Bellach rydwyf yn terfynu nawr gan roddi heibio canu;
Gan ddymuno peidiwch dilyn siampl ddrwg wrth fwydo’r mochyn.
(Cytgan)
Moliannwn G - C
1. Nawr lanciau, rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn wedi dod,
Y gaeaf a'r oerni aeth heibio daw y coed i wisgo'u dail,
A mwyniant mwyn yr haul a'r ŵyn ar y dolydd i brancio
Cytgan: Moliannwn oll yn llon, mae amser gwell i ddyfod,
Haleliwia
Ac ar ôl y tywydd drwg, fe wnawn arian fel y mwg
Mae arwyddion dymunol o'n blaenau.
Ffa la la, ffa la la, Ffa, la la, la la la la. (x2)
2. Daw'r Robin Goch yn llon i diwnio ar y fron a cheiliog y rhedyn i
ganu
A chawn glywed wiparwhil a llyffantod wrth y fil
O'r goedwig yn mwmian chwibanu.
(Cytgan)
3. Fe awn i lawr i'r dre', gwir ddedwydd fydd ein lle
A chawn lawnder o ganu ac o ddawnsio,
A chwmpeini naw neu ddeg o enethod glân a theg
Lle mae mwyniant y byd yn disgleirio
(Cytgan)
Myfanwy G
1. Paham mae dicter, O Myfanwy yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon
ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys, fu'n denu 'nghalon ar dy
ôl?
2. Myfanwy boed yr holl o'th fywyd dan heulwen disglair canol
dydd.
A boed i rosyn gwridog ienctid i ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion a wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
A rho dy law, Myfanwy dirion i ddim ond dweud y gair "Ffarwel".
Mynd drot drot A - C
1. Mynd drot drot ar y gaseg wen, mynd drot drot i'r dre,
Mami'n dod yn ôl dros fryn a dôl arhywbeth neis neis i de.
2. Teisen i Bil, banana i Sil, a thamaid i'r gath a'r ci,
Afal mawr iach i Ben y gwas bach a rhywbeth neis neis i mi
Oes gafr eto? C - D
Oes gafr eto? Oes heb ei godro,
Ar y creigiau geirwon mae'r hen afr
yn crwydro.
1. Gafr wen, wen, wen, ie finwen, finwen, finwen,
Foel gynffonwen, foel gynffonwen Ystlys wen a chynffon, Wen, wen,
wen.
2. Gafr goch, goch goch....;
3. Gafr las; 4. Gafr ddu; 5. Gafr binc; 6. Gafr
ghaci.)
Pam fod eira’n wyn D - G
(Dafydd Iwan - Cyhoeddiadau Sain)
1. Pan fydd haul ar y mynydd, Pan fydd gwynt ar y môr,
Pan fydd blodau ar y perthi, A'r goedwig yn gôr.
Pan fydd dagrau f'anwylyd Fel gwlith ar y gwawn,
Rwy'n gwybod, bryd hynny, mai hyn sydd yn iawn.
Cytgan: Rwy'n gwybod beth yw rhyddid, Rwy'n gwybod beth yw'r gwir
Rwy'n gwybod beth yw cariad, At bobol ac at dir.
Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynnau dwl, Peidiwch edrych
arna'i mor syn
Dim ond ffwl sydd yn gofyn Pam fod eira'n wyn.
2. Pan fydd gwiriau fy nghyfeillion Yn felus fel y gwin,
A'r seiniau mwyn, cynefin, Yn dawnsio ar ei min.
Pan fydd nodau hen alw Yn lleddfu fy nghlyw,
Rwy'n gwybod beth yw perthyn Ac rwy'n gwybod beth yw byw!
3. Pan welaf gwaith y glöwr, a'i gwaed ar y garreg las,
Pan welaf lle bu'r tyddynnwr Yn cribo gwair i'w dâs,
Pan welaf bren y gorthrwm Am wddf y bachgen tlawd,
Rwy'n gwybod bod rhaid i minnau Sefyll dros fy mrawd.
Pedoli E - G
1. Pedoli, pedoli, pedoli, bindic, Mi fynnaf bedoli pe costiai imi bunt,
Pedol yn ôl a phedol ymlaen, Pedol yn eisiau o dan y troed aswy
.
2. Pedoli, pedoli, pedoli, bi-drot, Rhaid i mi bedeoli, ond cyst i mi rot;
Pedol yn dynn o dan y troed hyn, Gwaith y g?r gwyn sydd yn y Gelli.
3. Pedoli, pedoli, pedoli, pe-doc, Mi fynnaf bedoli yr hen geffyl broc;
Pedol yn ôl a phedol ymlaen, Pedol yn eisiau o dan y troed aswy.
Pererin wyf C - F (alaw 'Amazing Grace')
1. Pererin wyf mewn anial dir, yn crwydro yma a thraw;
Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr Fod ty fy nhad gerllaw.
2. Tyrd ysbryd sanctaidd, ledia'r ffordd, Bydd imi'n niwl a
thân;
Ni cherdda' i'n gywir hanner cam Oni byddi di o'm blaen.
3. Mi wyraf weithiau ar y dde, Ac ar yr aswy law;
Am hynny arwain, gam a cham, Fi i'r baradwys draw.
4. Mae hiraeth arnaf am y wlad Lle mae torfeydd di-ri,
Yn canu'r anthem ddyddiau'i oes Am angau Calfari.
Pren ar y bryn Dm - Em
1. Ar y bryn roedd pren, o bren braf
Y pren ar y bryn a’r bryn ar y ddaear a’r ddaear ar
ddim
Ffeind a braf oedd y bryn lle tyfai y pren.
2. Ar y pren daeth cainc, o gainc braf
Y gainc ar y orn a'r pren ar y bryn a'r bryn ar y ddaear a'r .....
3. Ar y gainc daeth nyth…
4. Yn y nyth daeth wy…
5. Yn yr wy daeth cyw…
6. Ar y cyw daeth plu…
7. O’r plu daeth gwely…
8. I’r gwely daeth chwannen…
Reverend Eli Jenkins’ prayer C - F
1. Every morning when I wake, Dear Lord, a little prayer I make,
O please to keep Thy lovely eye On all poor creatures born to
die.
2. And every evening at sun-down I ask a blessing on the town,
For whether we last the night or no I'm sure is always
touch-and-go.
3. We are not wholly bad or good Who live our lives under Milk
Wood,
And Thou, I know, wilt be the first To see our best side, not our
worst.
4. O let us see another day! Bless us this night, I pray,
And to the sun we all will bow And say, goodbye - bye just for
now!
Robin ddiog Dm/Em
1. Mae gen i dipyn o d? bach twt o dŷ bach twt, o dŷ bach twt
Mae gen i dipyn o dŷ bach twt a'r gwynt i'r drws bob bore.
Cytgan: Hei di ho, di hei, di hei, di ho a'r gwynt i'r drws bob
bore.
2. Agorwch dipyn o gil y drws o gil y drws, o gil y drws
Agorwch dipyn o gil y drws gael gweld y môr a'r tonne.
(Cytgan)
3. Ac yma byddaf yn llon fy myd...
A’r gwynt i’r drws bob bore.
(Cytgan)
Rownd yr Horn G
1. Daeth amser i ffarwelio, ag annwyl wlad y Cymro,
Gan gerdded dros hen dir y 'Werddon fras.
Fe gododd gwynt yn nerthol y môr a'i donnau ruthrol
Gan olchi dros ein llestr annwyl las
Cytgan: Dewch, Gymry glân, i wrando ar fy nghân,
Fel bu y fordaith rownd yr Horn, Rownd yr Horrn,
sef y trydydd dydd o'r wythnos ychydig cyn y cyfnos,
Gan basio ger glân creigiau glannau Môn.
2. Rwyf wedi mynd a dwad mewn llongau hardd eu gwelad,
Ond dyma'r wyrcws benna gefais i.
Does yma ddim i'w fwyta, ond gwaith sy' llond ein breichia
O calon, pwy all beidio bod yn brudd.
(Cytgan)
Santiana Dm/Em
1. O Santiana chwyth dy gorn, Ai-ô Santiana
Tyrd gwyntoedd teg i rowndio'r Horn, Mae 'nghartre i yng Nghymru
bell.
2. Mae'r rhaffe i gyd fel ffyn o rew, Ai-ô Santiana
A'r môr yn wyllt, neu'r
niwl yn dew. Mae 'nghartre i yng Nghymru
bell.
3. .Mae tŷ fy nhad yn wyn a hardd, Ai-ô....
A rhosys cochion yn yr ardd. Mae 'nghartre i .....
4. Mae'r adar bach yn canu yn y coed, Ai-ô....
A Pero'n gwrando am swn fy
nhroed, Mae 'nghartre i .....
5. Ar ben y drws mae man a nhad, Ai-ô....
'Does unlle'n debyg i fy
nghwlad, Mae 'nghartre i .....
6. Mae'r hwylie wedi rhewi'n gorn, Ai-ô....
Gyr wyntoedd teg i rowndio'r
horn Mae 'nghartre i .....
Siocled a gwin D
Cytgan: Siocled a gwin i helpu fi ddod drostot ti
Siocled a gwin sy'n fy nghysuro i pan dwi'n dy angen di
Dioch yn fawr am gael cadw'r ci ond mae o'n dy golli di
Tyrd yn ôl a wnaiff e faddau i ti am ein gadael ni.
1. Mae un neu ddau o dy sannau'n dal i fod o gwmpas y tŷ
Mae dau neu dri o dy luniau yn dal mewn fframiau gennyf i
Mae rhywfaint o dy arogl yn dal ar fy nillad i
A chydig bach o dy wyneb yn dal ar fy meddwl I a
(Cytgan)
2. Mae dy hen frws dannedd yn dal i fod wrth y sinc
Mae mam yn benderfynnol fy mod i'n well off heb y grinc
Dw i'n dal i gael fy setio i fynny gan bob bachgen o dan haul
Unrhyw beth i dy anghofio di a symud ymlaen o
(Cytgan)
Canol: Dw i'n mynd yn wirion hebddo ti, a dwi'n yfed ar ben fy hynan
yn y tŷ -
syniad gwych dw i 'mond cyrraedd ti
Ond dw i'n ifanc, dw i'n iach, dw i ddim angen dyn,
dw i'n iawn ar ben fy hun, ond o dro i dro, dw i angen
(Cytgan)
Sosban fach Em
1. Mae bys Meri Ann wedi brifo a Dafydd y gwas ddim yn iach
Mae'r baban yn y crud yn crio a'r gath wedi sgrapo Jonni bach.
Sosban fach yn berwi ar y tân, sosban fawr yn berwi ar y
llawr,
A'r gath wedi sgrapo Jonni bach.
Dai bach y soldiwr, Dai bach y soldiwr, Dai bach y soldiwr, A chwt ei
grys e’ ma’s.
2. Mae bys Meri Ann wedi gwella a Dafydd y gwas yn ei fedd
Mae'r baban yn y crud yn gwenu a'r gath wedi huno yn ei hedd.
Sosban fach yn berwi ar y tân, sosban fawr yn berwi ar y
llawr,
A'r gath wedi sgrapo Jonni bach.
Sut grys oedd ganddo, sut grys oedd ganddo? Sut grys oedd ganddo?
Un gwyn a streipen las.
Suo gân C
1. Huna blentyn yn fy mynwes,
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy'n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha' dim amharu'th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam;
Huna'n dawel, annwyl blentyn,
Huna'n fwyn ar fron dy fam.
2. Huna'n dawel, heno, huna,
Huna'n fwyn, y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy'n gwenu,
Arnat ti yn gwenu'n llon,
Tithau'n gwenu'n ôl dan huno,
Huno'n dawel ar fy mron?
3. Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.
The Bells of Rhymney G - D
(Original poem (verses 1 to 3) by Idris Davies, tune by Pete Seager)
1. 'Oh what will you give me'? say the sad bells of Rhymney.
'Is there hope for the future?' say the brown bells of Merthyr.
'Who made the mineowner?' say the black bells of Rhondda.
And 'Who robbed the miner?' say the grim bells of Blaina.
2. 'They will plunder willy-nilly', say the bells of Caerphilly.
'They have fangs they have teeth!' shout the loud bells of Neath
'Even God is uneasy'. say the moist bells of Swansea,
'To the south things are sullen', say the pink bells of Brecon.
3. 'Put the vandals in court', say the bells of Newport.
'All will be well, if, if, if...' say the green bells of Cardiff
' Why so worried sisters why?' sing the silver bells of Wye,
And 'What will you give me?' say the sad bells of Rhymney.
4. No more pit wheels a-turning, no more coal fires burning.
No more pit boots on cobbles, now it's giro and hobbles.
Women working in factories make electronic assemblies,
Takinging home lower wages, pay the catalogue in stages.
5. As you walk in the sunshine, see the green where there was grime,
See the new roads and factories, see the greening of the valleys.
After a hundred years of darkness, the valleys bloom in their greenness
And instead of the coal scars, we've got bistros and wine barsl
6. 'Oh what will you give me?' sang the sad bells of Rhymney.
Thank God those days are gone now, we look forward not back now.
Opportunity's waiting every day for the taking.
'Take it now, don't be angry ' say the new bells of Rhymney.
Tra bo dau D
1. Mae'r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddi yma'n byw;
A hiraeth am ei gweled hi
A'm gwnaeth yn llwyd fy lliw.
Cytgan:
Cyfoeth nid yw ond oferedd,
Glendid nid yw yn parhau;
Ond cariad pur sydd fel y dur
Yn para tra bo dau.
2. Mil harddach yw y teg eu llun
Na gwrid y wawr i mi,
Ond harddach fyth yw serch fy min
Na chyfoeth au di-ri
(Cytgan)
3. O'r dewis hardd ddewisais i
Oedd dewis lodes lân;
A chyn bydd 'difar gennyf fi
O rhewi wnaiff y tân.
(Cytgan)
4. Mae f'annwyl riain dros y lli,
Gobeithio'i bod hi'n iach!
'Rwy'n caru'r tir lle cerddo hi
Dan wraidd fy nghalon fach.
(Cytgan)
Wrth fynd efo Deio i Dywyn Dm
1. Mi dderbyniais bwt o lythyr, Ffa la la, la la la la, la la, la
la,
Oddi wrth Mistar Jones o'r Brithdir, Ffa la la, ....
Ac yn hwnnw roedd o’n gofyn, Ffa la la, ....
Awn i efo Deio i Dywyn, Ffa la la, ....
2. Fe gychwynnwyd ar nos Wener, dod i Fawddach erbyn swper,
Fe gawd yno uwd a menyn, wrth fynd efo Deio i Dywyn.
3. Dod ymlaen a heibio’r Ddinas, bara a chaws a chwrw
‘Ngwanas,
Drwy Dalyllyn yr awn ni’n llinyn, wrth fynd efo Deio i
Dywyn.
4. Dod drwy Aberygynolwyn, ac ymlaen dan Graig y Deryn,
Pan gyrraeddsom Ynys Maelgwyn, gwaeddodd Deio, “Dacw
Dywyn”.
5. Os caf byw un flwyddyn eto, mynnai'n helaeth iawn gynilo
Mi gaf bleser anghyffredin, wrth fynd efo Deio i Dywyn...
Y deryn pur D
1. Aderyn pur a'r adain las, bydd i mi’n was dibrydar,
O brysur brysia at y ferch lle rhoes i’m serch yn gynnar.
Dos di ati, dywed wrthi, ’mod i’n wylo dwr yr heli;
’Mod i’n irad am ei gwelad, ac o’i chariad yn ffaelu â cherddad,
O Dduw faddeuo’r hardd ei llun am boeni dyn mor galad.
2. Pan o’wn i’n hoenus iawn fy hwyl, ddiwrnod g?yl yn gwylio,
Canfyddwn fenyw lana ’rioed, ar ysgafn droed yn rhodio.
Pan ei gwelais, syth mi sefais, yn fy nghalon mi feddyliais:
Dyma ddynas lana'r deyrnas, a'i gwên yn harddu pawb o'i chwmpas,
Ni fynswn gredu'r un dyn byw nad oedd hi rhyw angyles
Y ferch o blwy Penderyn D
1. 'Rwy'n caru merch o blwyf Penderyn, ac yn ei chanlyn ers lawer
dydd ;
Ni allwn garu ag un ferch arall, er pan welais 'run gron ei
grudd.
Mae hi'n ddigon hawdd ei gweled, er nad yw ond dyrnaid fach ;
Pan elo i draw i rodio'r caeau, fy 'nghalon glaf hi wna yn iach.
2. Pan o'wn i'n myned ar ryw fore yn hollol ddiflin tua’m
gwaith,
Mi glywn aderyn ar y brigyn yn tiwnio'n ddiwyd ac yn faith,
Ac yn d'wedyd wrthyf innau, "Mae'r ferch wyt ti'n ei charu'n driw
Yn martsio'i chorff y bore fory tua rhyw fab arall, os bydd hi
byw."
3. 'Rwy'n myned heno, dyn am helpo, i ganu ffarwel i'r seren syw
;
A dyna waith i'r clochydd fory fydd torri 'medd o dan yr yw !
A than fy enw'n 'sgrifenedig ar y tomb wrth fôn y pren,
Fy mod i'n isel iawn yn gorwedd yng ngwaelod bedd o gariad Gwen.
Y gelynnen D
1. Fy mwyn gyfeillion dewch ynghŷd i gyd i ganmol y glasbren,
Pren canmolus gweddus gwiw, a'i enw yw y gelynnen.
Cytgan: Ffal di rwdl lam tam, tw li ri dl di Ti rei tam tam ton
tonnen,
Pren canmolus gweddus gwiw a'i enw yw y gelynnen.
2. I ba beth y cyffelybaf hon, i focsen gron neu'r ywen,
Neu ryw neuadd wych o blas, ond ffein yw y las gelynnen.
(Cytgan
...Neu ryw..)
3. Pe bai hi yn law neu ôd, mi allwn fod yn llawen;
Neu ryw dywydd a fai'n fwy, 'does dim ddaw trwy y gelynnen.
(Cytgan
...Neu ryw..)
4. Aderyn to a gafodd dy, a cheiliog du'r fwyn fwyalchen,
Ac eistedd mae f'anwylyd wen tan gysgod pren y gelynnen.
(Cytgan
...Ac ceistedd..)
Y gwydr glas D
1. Os daw nghariad yma heno, yma heno i guro’r gwydyr glas.
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo,
na atebwch mono’n gas
Nad ydyw’r ferch ddim gartre na’i h’wyllys da’n y t?.
Llanc ifanc o’r plwy aralI, o’r plwy arall sydd wedi mynd â hi.
2. Pe meddwn edyn eryr. edyn eryr. mi fyddwn lawer gwell
I hedeg at fy nghariad, at fy nghariad sydd yn y gwledydd pell;
Dros diroedd maith a moroedd. gobeithio’i fod e’n iach
Rwy’n caru’r tir lIe cerddodd, tir lle cerddodd
o wraidd fy nghalon fach.
3. Fy nghalon sydd cyn drymed, sydd cyn drymed
a’r march sy’n dringo’r rhiw.
Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen, ni fedrwn yn fy myw
Mae’r esgid yn fy ngwasgu mewn man nas gwyddoch chi
A llawer gofid meddwl, gofid meddwl sy’n torrri nghalon i.
Yma o hyd Em
(Dafydd Iwan - Cyhoeddiadau Sain)
1. Dwyt ti'n cofio Macsen, does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd yn amser rhy hir i'r co';
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan, a heddiw: wele ni!
Cytgan : Ry'n ni yma o hyd, ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth, er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o
hyd.
2. Chwythed y gwynt o'r Dwyrain, rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren a gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon a llyfed y taeog y llawr,
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
(Cytgan)
3, Cofiwn i Facsen Wledig adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd, "Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!"
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd, er gwaetha 'rhen Fagi a'i chriw,
Byddwn yma hyd ddiwedd amser, a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
(Cytgan)
Ym Mhontypridd mae 'nghariad Am
1. Ym Mhontypridd mae mwriad, ym Mhontypridd mae nghariad;
Ym Mhontypridd mae’r ferch fach Ian, a’i chael o flaen yr offeirad.
2. Mi hela'i heddi’ unswllt, mi hela'i ‘fory ddeuswllt;
A chyn y colla’i merch ei mam, mi treia ‘i am triswllt.
3. Mi glywais lawar caniad, mi welais lawar bwriad;
Mi welais lawar benyw Iân, ond neb mor Iân na ‘nghariad.
4. Mae’m bwthyn ger yr afon, mae gen i wartheg blithion;
Mae gen i ffarm ar Ian y Taf, o tyred ataf, Gwenfron.
Yr eneth gadd ei gwrthod D
1. Ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn eisteddai glân forwynig
Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun "Gadawyd fi yn unig
Heb gâr na chyfaill yn y byd, na chartref i fynd iddo
Drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi, 'Rwy'n wrthodedig heno."
2. Mae bys gwaradwydd ar fy ôl, yn nodi fy ngwendidau,
A llanw 'mywyd wedi ei droi, a'i gladdu dan y tonnau ;
Ar allor serch aberthwyd fi, do, collais fy morwyndod,
A dyna' pam y gwelwch chi fi heno wedi 'ngwrthod.
3. Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon yn nyfroedd glan yr afon
Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd a noddfa rhag gelynion
Cei fyw a marw dan y dwr, heb neb i dy adnabod
O! na chawn innau fel tydi gael marw, a dyna ddarfod.
4. Ond 'hedeg mae fy meddwl prudd i fyd sydd eto i ddyfod
A chofia dithau fradwr tost rhaid i ti fy nghyfarfod
Mae meddwl am dy eiriau di a byw sydd i mi'n ormod
O, afon ddofn, derbynia fi caf wely ar dy waelod".
5. Y boreu trannoeth cafwyd hi yn nyfroedd oer yr afon.
A darn o bapur yn ei llaw ac arno'r ymadroddion
"Gwnewch imi fedd mewn unig fan, a chodwch faen na chofnod
I nodi'r fan lle gorwedd llwch Yr Eneth ga'dd ei Gwrthod".
Yr hen dderwen ddu G
1. A minnau'n mynd un fore yn gynnar tua'r ffair
Fe gwrddais eneth ifanc a'i gwallt yn donnau aur
Yr eneth ger Caerfyrddin a'i llais fel llais y lli
Arhosais i am ennyd fach i sgwrsio gyda hi
Cytgan: Y ferch mewn brethyn cartref, tyrd i eistedd gyda mi
A dweda i ti'r stori am yr hen, hen dderwen ddu,
2. A ni ar gwr Caerfyrddin, edrychodd arna' i'n flin
Wrth fy ngweld yn codi 'nghap i bwt o goeden ddu
Ond dwedais wrthi'r hanes, pe gwympai'r goeden hon
Yn ôl yr hen chwedloniaid âi'r dref o dan y don.
(Cytgan)
3. A dyma hi yn chwerthin, a'm gwneud i deimlo'n ffôl
Fod crwt fel fi yn credu hen stori oesau 'nôl
Ond roedd ei llais yn heintus, a'i gruddiau hi mor llon
Fe deimlais i ryw chwithdod a chyffro yn fy mron.
(Cytgan)
4. A 'nawr 'rwyf ar fy iaelwyd, a'm cymar gyda mi:
Yr eneth gynta' gwrddais ger bron y dderwen ddu
Fy nheulu sydd yn gyflawn, fy mhleser sy'n ddi-ri
Am i mi godi 'nghap rhyw ddydd i bwt o goeden ddu.
(Cytgan)
Yr unig peth oedd ar fy meddwl i G (Tom Paxton)
1. Mae hi'n wers sy'n rhy hir i mi'i dysgu: ofer yw, ofer yw
Mae ein cariad ni wedi diflannu: ofer yw, ofer yw
Cytgan: Es di i ffwrdd wrthyf fi heb un gair o ffarwel
Dim cofleidiad, dim esboniad wrthyt ti.
Roeddwn dim ond am d'adnabod, dy garu a dy ganmol di
Dyna'r unig peth oedd ar fy meddwl i.
2. Gadewaist, doedd dim angen diflannu, gwyddaf i, gwyddaf i
Does dim cân yn fy myd i mi ganu, gwyddaf i, gwyddaf i.
(Cytgan)
3. Wrth i'm grwydro fy myd wrth fy hunan, hebddot ti, hebddot ti,
Mi welaf dy wyneb ymhobman, hebddot ti, hebddot ti.
(Cytgan)
4. Wrth gerdded strydoedd di-fywyd y ddinas, yn awr yn oer
Gofynnaf beth aeth o'i le â'n perthynas, yn awr yn oer.
(Cytgan)
Ysbryd y nos C
1. Pan ddaw lleisiau'r nos i'm hoeni,
a siffrwd gwag y gwynt i'm hoeri,
Ti sy'n lliwio'r blode a mantell gwlith y bore:
Tyrd, Ysbryd y Nos;
A'r tonnau'n llusgo'r cregyn arian i siffrwd yn ei lifrai sidan,
Mi wn y byddi yno yn barod i'm cysuro:
Tyrd, Ysbryd y Nos.
Cytgan:*
Ysbryd y Nos, tyrd yma 'n awr, gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr;
Diffodd y t'wyllwch, tyrd â'r dydd: gad im ddod o'r nos yn rhydd.
Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd yn gynnes yn dy olau peraidd,
A bysedd brau y barrug yn deffro hun y cerrig:
Tyrd, Ysbryd y Nos.
Ysbryd y Nos, rho d'olau mwyn, ysbryd y Nos, rho im dy swyn,
Ysbryd y Nos, fel angel y dydd, ysbryd y Nos, enaid y pridd.
Ac yno yn y dyffryn tawel mi glywaf gân yn swn yr awel
A neges hud y geirie yn hedfan dros y brynie:
Tyrd, ysbryd y Nos.
|